Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwirio Taliadau Tywydd Oer yn eich ardal

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r gwasanaeth Gwirio Taliadau Tywydd Oer yn eich ardal.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym eisiau cyn gymaint o bobl â phosibl i allu defnyddio’r gwasanaeth. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • Llywio'r rhan fwyaf o'r gwasanaeth gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y gwasanaeth mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen Cysylltu â DWP am hygyrchedd.

Gweithdrefn gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r:

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae DWP wedi ymrwymo i wneud ei wasanaeth yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae'r gwasanaeth wedi'i brofi yn erbyn safon AA 2.2 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG). Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n llawn â fersiwn 2.2 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe. safon AA.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hon ar 13 Hydref 2026. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 13 Hydref 2026.

Profwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf ar 13 Hydref 2026 yn erbyn safon WCAG 2.2 AA.

Profwyd pob tudalen gan DWP gan ddefnyddio offer profi â llaw ac awtomataidd i safon WCAG 2.2 AA.